Cwrt Tŷ Mawr Wybrnant

Neges o Groeso

Croeso i daith rithiol o amgylch system tyrbin dŵr Tŷ Mawr Wybrnant. Mae'r system hon yn ffordd o arddangos y potensial i gynhyrchu trydan dŵr ar gyfer hunan-ddefnydd a hynny mewn modd glân a chost-effeithiol.

Mae’r project hwn yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor, Coleg y Drindod Dulyn, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fe’i gwnaed yn bosibl oherwydd cymorth gan Raglen Interreg ERDF Cymru-Iwerddon 2014-2020, drwy’r Project Dŵr Uisce.


I fwrw ymlaen â'r daith, ewch i'r pwerdy neu at y mewnlif o’r afon trwy glicio ar yr arwyddion ^. 


Tŷ Mawr Wybrnant

Mae ffermdy hanesyddol Tŷ Mawr Wybrnant, a adeiladwyd yn yr 16eg ganrif, yn atyniad twristaidd adnabyddus a chaiff ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mewn ymdrech i ddefnyddio llai o ynni i oleuo a gwresogi'r adeilad, gosodwyd system ynni dŵr bychan i gynhyrchu tua 4 cilowat gan ddefnyddio dŵr afon Wybrnant gerllaw. Mae dŵr yn cael ei dynnu o'r afon ar dir uwch (+35m) ac yna'n cael ei gludo trwy bibell 300m o hyd at y pwerdy. Ar ôl cynhyrchu trydan yn y tyrbin, mae'r dŵr yn ailymuno â'r nant gerllaw’r ffermdy hanesyddol.

1.       Y mewnlif o’r afon

Afon Wybrnant a ddefnyddir i gyflenwi dŵr i'r tyrbin yn y Pwerdy er mwyn cynhyrchu trydan.
Tŷ’r Gofalwr

 Llety ar gyfer gofalwr a benodwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Y Pwerdy
Gwnaed y pwerdy â ffrâm ddur wedi’i gorchuddio â phren lleol, er mwyn cysgodi’r tyrbin a’r offer trydanol/rheoli. 
Tyrbin
Pwmp dŵr confensiynol yw’r tyrbin sydd wedi'i addasu i weithredu’r ffordd groes fel tyrbin, gydag uchafswm allbwn pŵer o tua 4 cilowat.

Gallwch fwrw ymlaen â’r daith drwy glicio ar yr arwydd ^ ar y sied i fynd yn eich blaen at y mewnlif o’r afon, neu cliciwch ar yr ail arwydd ^ er mwyn dychwelyd i’r prif gwrt

Tŷ’r Gofalwr

 Llety ar gyfer gofalwr a benodwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Sgrin a chymeriant
Os oes llif dŵr digonol yn y nant, bydd rhan ohono'n llifo trwy'r sgrin fetel ac yna i mewn i'r bibell 300m o hyd sy'n arwain at y pwerdy
Gored
Mae'r dŵr yn cael ei dynnu o’r afon trwy gored fechan sy'n codi lefel y dŵr rhyw ychydig ac sy'n cynnwys rhicyn i ganiatáu i'r Llif Di-gyffwrdd basio trwy’r nant yn annibynnol ar y gweithrediadau hydro
Diolch
Ewch ymlaen â'r daith trwy glicio ar yr arwydd ^ i ddychwelyd i'r prif gwrt