Croeso i daith rithiol o amgylch system
adennill gwres Ystafelloedd Te Castell Penrhyn. Mae'r system hon yn gweithredu
fel arddangosfa o'r potensial sydd i adennill gwres o'r dŵr gwastraff poeth a
gynhyrchir mewn ceginau masnachol ac sydd fel arfer yn llifo i lawr y draen.
Bydd adennill y gwres hwn yn arbed arian trwy leihau'r defnydd a wneir o
danwydd a bydd hefyd yn lleihau'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â
gwresogi dŵr.
I gychwyn ar y daith, gwnewch eich
ffordd i'r ystafelloedd te trwy glicio ar yr arwydd ^ ger y ffenestr sydd uwch
eich pen ar y chwith.
Castell Penrhyn, taith rithwir
Adeiladwyd Castell Penrhyn yn yr arddull Neo-Normanaidd
rhwng 1822 a 1837 gan Thomas Hopper ar gyfer George Hay Dawkins-Pennant.
Adeiladwyd y castell mawr 204 ystafell ag elw Chwarel y Penrhyn, ac yn
ddiweddarach ag elw planhigfeydd siwgr yn Jamaica a gâi eu gweithio yn bennaf
gan gaethweision. Etifeddodd y Cyrnol Edward Gordon Douglas-Pennant y castell
ac aeth ati i’w ehangu’n sylweddol ar ôl y dyrchafiad yn ei statws i fod y
cyntaf o Arglwyddi’r Penrhyn. Adeiladwyd yr Iard Lo hon fel rhan o'r ehangiad hwn
ym 1868 ac roedd yn bennaf yn dal coed a glo i'w defnyddio yn llety'r gweision.
Rhoddwyd y Castell i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i'w reoli yn 1951 ar ôl
marwolaeth y 4ydd Arglwydd Penrhyn, Hugh Napier, yn 1949.
Ar ôl i chi fwynhau pryd o fwyd neu
fyrbryd yn Ystafelloedd Te Castell Penrhyn, mae staff yr Ystafell De yn
defnyddio dŵr poeth ar dymheredd o tua 40-50 gradd celsius i olchi llestri budr
ac offer coginio. Yna mae'r dŵr gwastraff poeth hwn yn llifo i ddraen, trwy
garthffos ac i danc septig o fewn safle Castell Penrhyn, gan oeri'n raddol ar
hyd y ffordd. Nod ein system yw adennill rhywfaint o'r gwres gwastraff hwn a
lleihau costau gwresogi dŵr ar gyfer cegin yr Ystafell De.
Cyfnewidydd Gwr 2
Yr un peth a Cyfnewidydd Gwr 1
Mae'r pwmp hwn yn cyflenwi dŵr wedi'i
gynhesu i'r Uned Gymysgu.
Mae'r pwmp hwn yn trosglwyddo dŵr oer i
mewn a dŵr cynnes allan o'r cyfnewidydd gwres.
Synhwyrydd sy'n mesur tymheredd y dŵr
poeth sy'n cael ei gofnodi yn yr orsaf fonitro.